Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2015

Amser y cyfarfod: 13.30
 


(299)v6

<AI1>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys

 

Eluned Parrott (Canol De Cymru) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei ddealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol yn Celsa Steel yng Nghaerdydd yn dilyn y ffrwydriad y bore yma?

</AI3>

<AI4>

3       Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

(5 munud)

NDM5879 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

(i) Lindsay Whittle (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Jocelyn Davies (Plaid Cymru);

(ii) Bethan Jenkins (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru).

NDM5880 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru).

NDM5886 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol John Griffiths (Llafur) fel eilydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Ann Jones (Llafur).

</AI4>

<AI5>

4       Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

NDM5877 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu ailosod y system Trident bresennol gan Lywodraeth y DU; a

2. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd, ond yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.

[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 -  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Yn credu bod ailosod Trident yn hanfodol i sicrhau diogelwch cenedlaethol.

Yn diolch i'r dynion a'r menywod sy'n gweithio bob dydd i ddiogelu a darparu ataliad niwclear annibynnol y Deyrnas Unedig, sydd wedi helpu i gynnal heddwch am nifer o flynyddoedd.

Yn nodi ymhellach bod lleoliad ataliadau niwclear yn fater a gadwyd yn ôl ac felly nid yw o fewn maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU i beidio ag adnewyddu Trident yn ystod y tymor seneddol blaenorol o ganlyniad i'r ffaith bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynnu hyn.

</AI5>

<AI6>

5       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

NDM5875 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r effaith negyddol y gall oedi wrth drosglwyddo gofal ei chael ar y GIG yng Nghymru ac ansawdd bywyd yr unigolyn;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i'w galluogi i aros yn eu cartref eu hunain cyhyd â phosibl; a

3. Yn credu y gallai cyflwyno'r opsiwn o asesiad 'aros yn y cartref' yng Nghymru ar gyfer pawb sy'n cyrraedd oedran ymddeol fod yn fesur ymyrraeth cynnar allweddol a allai atal pobl rhag mynd i'r ysbyty ac atal oedi wrth drosglwyddo gofal ar ôl gadael yr ysbyty.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 3.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod cynifer o welyau â phosibl ar gael yn GIG Cymru, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

(60 munud)

NDM5878 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy na 170,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ym maes twristiaeth a sectorau cysylltiedig;

2. Yn nodi bod 44 y cant o'r bobl a gyflogir o fewn y sector twristiaeth o dan 30, ac felly gallai mesurau i gefnogi'r sector hwn chwarae rôl allweddol yn y broses o leihau'r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru;

3. Yn credu y byddai gostyngiad mewn TAW ar dwristiaeth yn annog mwy o ymwelwyr rhyngwladol a domestig, yn rhoi hwb sylweddol i fusnesau lleol ac yn arwain at fwy o fuddsoddiad, swyddi a thwf economaidd;

4. Yn nodi bod 25 o aelod-wladwriaethau eraill yr UE eisoes yn manteisio ar eithriad yr EU ar gyfer cyfradd TAW is ar gyfer atyniadau a llety twristaidd; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i ostwng TAW ar dwristiaeth o 20 y cant i 5 y cant, i'n helpu ni i gystadlu yn erbyn gwledydd eraill Ewrop ac anfon neges gref bod Cymru yn agored i dwristiaid ac yn agored ar gyfer busnes.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r rôl y mae busnesau twristiaeth preifat yn ei chwarae o ran adfywio lleol, yn ogystal ag economi ehangach Cymru.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod rhai darparwyr twristiaeth yn parhau i fod yn ansicr am rôl Croeso Cymru.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod cefnogaeth eang ar gyfer trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros gyflawni datblygu a hyrwyddo twristiaeth o Lywodraeth Cymru.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi asesiad gwerth am arian ar gyfer cynlluniau rheoli cyrchfannau cyn diwedd mis Ionawr 2016.

</AI7>

<AI8>

7       Cyfnod pleidleisio

 

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Fer

(30 munud)

NDM5876 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):

Y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd: rhoi'r gorau i wastraffu bwyd da yng Nghymru

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>